Mae 29 safle ar gyfer carafanau statig preifat gyda thrwydded i'w
defnyddio 8 mis y flwyddyn, o'r penwythnos 1af ym mis Mawrth i'r
penwythnos 1af ym mis Tachwedd gyda ffioedd o £1,875 y
flwyddyn. Mae gan bob safle gyflenwad dŵr a chysylltiad carthffos
gyda tâl ychwanegol am drydan yn cael ei fesur yn unigol. Ni
chaniateir rhentu allan.
Ar hyn o bryd mae 4 safle concrit newydd ar gael ar gyfer carafanau
newydd. Codi’r ffi o £2,500 am ddod a carafan at y safle lle nad oes
comisiwn cyflenwyr yn daladwy. Y ffi i leoli a chysylltu yw £1,500 a
£750 am gael gwared o garafan, I drafod dod a charafan statig ar y
safle, cysylltwch â Alwyn Roberts ar 07818 454190.
Mae 6 safle gyda chyswllt trydan ar gael i garafanau tymhorol /
teithiol gyda thaliad llawn am arhosiad yn ofynnol wrth gyrraedd.
Mae safle gyda thrydan i garafanau Tymhorol ar gael o fis Ebrill i fis
Hydref am £230 y mis (isafswm o 3 mis). Mae safle gyda thrydan i
garafanau teithiol ar gael am £25 y noson (isafswm o 2 noson ar
benwythnosau gŵyl y banc).