1. Rhaid i yrwyr cerbydau a beicwyr gadw at gyflymder cyfyngiedig o 5mya.
2. Rhaid bod offer addas i ymladd tân a darpariaeth sylfaenol cymorth cyntaf ar gael ym mhob carafán.
3. Rhieni / gofalwyr fydd yn gyfrifol am ymddygiad unrhyw blant yn eu gofal a rhaid iddynt sicrhau nad ydynt yn cael eu gadael heb
oruchwyliaeth.
4. Ni chaniateir unrhyw danau agored ar unrhyw ran o'r Parc. Caniateir defnyddio chimneas bach a barbeciws, mewn modd diogel.
5. Rhaid gwaredu sbwriel yn ôl y rheolau ailgylchu – darperir biniau pwrpasol yn ôl y gwastraff. Gwnewch eich trefniadau eich hun ar
gyfer gwaredu unrhyw wastraff mawr.
6. Dylid cadw’n dawel rhwng 10yh ac 8yb.
7. Mae croeso i gŵn ar dennyn byr sy'n ymddwyn yn dda. Rhaid bagio baw eich ci yn syth a’i waredu yn y bin gwastraff cyffredinol.
8. Mae’n ofynnol i ddilyn Rheolau’r Parc, os bydd unryw un yn eu torri neu yn ymddwyn mewn modd bygythiol, gellir cael gorchymun i
adael.
9. Mae Parc Carafanau Bryn Gwyn ar orlifdir yr Afon Lliw a mae rhan isaf y parc weithiau yn agored i lifogydd. Mewn tywydd gwlyb
eithriadol, byddwch yn wyliadwrus a chadwch lygad ar lefel y dŵr. Mae eich diogelwch personol yn hollbwysig i ni.